CAFOD a phartneriaeth
Mae partneriaethau CAFOD wedi’u seilio ar ymroddiad y naill i’r llall, ymddiriedaeth y naill yn y llall, a’r cydrannu o’r un pryderon.
Bwriad CAFOD yw cryfhau ei bartneriaid drwy alluogi cynnydd – proses sy’n galluogi mudiadau i wella’u sgiliau, eu hadnoddau a’u systemau fel eu bod yn gallu ymateb yn well i anghenion eu cymunedau.
Mae gwaith CAFOD yn hybu dysgu rhwng partneriaid mewn gwahanol wledydd:
-
Mae un o raglenni ieuenctid CAFOD wedi dod â phobl ifanc o Sierra Leone, Liberia, Ghana, Burkina Faso, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a’r DU ynghyd i rannu diddordebau ac i weithredu ar faterion fel yr amgylchedd, hawliau pobl ifainc ac ymwybyddiaeth o HIV/AIDS.
Nid yw CAFOD erioed wedi ein gorchymyn i wneud dim, ond mae wedi cyd-deithio â ni, wedi gwrando arnom ac wedi’n cefnogi, a gwerthfawrogwn hyn.
Miguel Marroqin, Ffederasiwn Gorsafoedd Radio Guatemala a ariannwyd gan CAFOD. - Mae Rhaglen Gorllewin Affrica-Sambia (WAZAM) yn helpu partneriaid sy’n gweithio ar HIV ac AIDS i rannu’r gwersi a ddysgwyd.
CAFOD mewn partneriaeth â mudiadau a rhwydweithiau eraill
Mae CAFOD yn gweithio gydag:
- Asiantaethau Catholig, gan gynnwys y chwaer asiantaethau Trocaire, SCIAF ac aelodau Ffederasiwn Rhyngwladol Caritas.
- Asiantaethau cymorth a datblygu yn y DU – er enghraifft Cymorth Cristnogol ac aelodau’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, sy’n codi arian yn y DU ar gyfer argyfyngau tramor.
-
Grwpiau Cyfiawnder a Heddwch a rhwydweithiau ffydd seiliedig megis Cymorth Islamaidd.
Mae ein hasiantaethau yn falch i weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r bobl dlotaf a gwanaf, sydd â’u cyflwr wedi ei amlygu a’i ddwysau gan ddigwyddiadau diweddar. Rydym hefyd yn llawn mor ymroddedig i hybu ddatblygiad dynol ac i amddiffyn urddas dyn wrth ennyn gobaith ac ysbrydoliaeth o’n credoau ein hunain.
Datganiad ar y cyd gan cyn-Gyfarwyddwr CAFOD, Julilan Filochowski, a Dr Hany El Banna, Cyfarwyddwr Cymorth Islamaidd, yn ystod yr argyfwng Affganaidd, 2001 - Rhwydweithiau ymgyrchu megis Ymgyrch Ddyled Jiwbilî, Y Mudiad Tegwch mewn Masnach a’r Ymgyrch Genedlaethol i Wahardd Ffrwydron Tir.
- Asiantaethau Llywodraethol, er enghraifft Adran Ddatblygu Ryngwladol llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd.


![Refugees gather at a makeshift camp near Kibati, 12 km north of the provincial capital of Goma, October 29, 2008 [REUTERS/Stringer, courtesy www.alertnet.org]](/var/storage/images/about-cafod/where-we-work/dr-congo/images/refugees-who-fled-fighting/934156-2-eng-GB/refugees-who-fled-fighting_0column50_04space_landscape.jpg)

![More than 700 campaigners rallied before delivering anti-poverty messages to every EU embassy in London [CAFOD]](/var/storage/images/media_folder/cafod/images/campaign_images/trade_justice_campaign_images/embassy_bus/199633-2-eng-GB/embassy_bus_0column50_04space_landscape.jpg)
![Fatna (right) brings home wood that she and some neighbours have harvested from outside the camp in Kubum, south Darfur [Paul Jeffery/ACT/Caritas]](/var/storage/images/about-cafod/where-we-work/sudan/images/fatna-right-brings-home-wood/247664-2-eng-GB/fatna-right-brings-home-wood_0column50_04space_landscape.jpg)
![Niccollette and Shrirvanie film the aftermath of the Guyanan floods, with support from CAFOD partner Guyana Human Rights Association [CAFOD]](/var/storage/images/about-cafod/what-we-do/communications/images/after-guyana-floods/679742-1-eng-GB/after-guyana-floods_0column50_04space_landscape.jpg)


![Cofrestru gyda Chymorth Islamaidd ar gyfer dosraniad o wenith yn rhad ac am ddim, Affganistan 2002. [Marsha Pereira]](/var/storage/images/media/cafod/images/asia/afghanistan/afghans_registering_welsh/3107-1-eng-GB/afghans_registering_welsh_medium.jpg)




